Matthew 5:46 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit a cherwch y sawl, ach caro, pa vv obr vvy a gewch? A ny wna ’r Publicanot yr vn ryw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os cerwch y sawl a’ch caront, pa wobr sydd i chwi? Onid yw’r treth-gymmerwŷr yn gwneud yr un peth?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os cerwch y rhai a’ch câr, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y trethwyr yn gwneuthur yr un peth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna'r publicanod hefyd yr un peth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam dylech chi gael gwobr am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy'n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint hynny?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd os cerwch y sawl a'ch carant, pa wobr a gewch? Oni wna y Trethgasglwyr yr un peth?