Matthew 5:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s byddwch garedigol i ’ch brodur yn vnic, pa ragoriaeth a wnewch? Ac a ny wna ’r Publicanot yr vn ffynyt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych yn ei wneuthur? Onid yw’r ethnigion yn gwneuthur yr un peth? Byddwch chwi, gan hyny, yn berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa orchest a wnewch? Onid yw hyd yn oed y cenedl-ddynion yn gwneuthur yr un peth?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw'r publicanod hefyd yn gwneuthur felly?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi'n eu cyfarch, beth dych chi'n ei wneud sy'n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint hynny?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa beth rhagorach a wnewch? Oni wna y cenedloedd yr un peth?