Matthew 6:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GOchelwch roddy eich eluseni yngwydd dynion, er mwyn cael eich gwelet ganthwynt, anyd ef, ny chewch vv obr vvy y gan eich Tad yr hwn ’sydd yn y nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyliwch rhag gwneud eich cyfiawnder ger bron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: onite, gwobr nid oes i chwi gyda’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gochelwch wneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion er mwyn cael eich gweled ganddynt; onid e, nid oes dâl i chwi gan eich Tad sydd yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Byddwch yn ofalus i beidio gwneud sioe o'ch crefydd, er mwyn i bobl eraill eich gweld chi. Os gwnewch chi hynny, chewch chi ddim gwobr gan eich Tad yn y nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cymerwch ofal i beidio chyflawni eich dyletswyddau crefyddol o flaen eraill, er mwyn cael eich gweld ganddynt; os gwnewch, nid oes gwobr i chwi gan eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gochelwch rhag gwneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion, er mwyn eich gweled ganddynt: os amgen, ni chewch wobr gan eich Tad, yr hwn sydd yn y Nefoedd.