Matthew 6:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit a’s maddeuwch i ddynion ei sarhaedae, eich Tad nefawl a vaddeu hefyt i chwitheu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, maddeua hefyd eich Tad y sydd yn y nefoedd i chwi:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, fe faddau eich Tad nefol hefyd i chwithau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad Nefol a faddeu hefyd i chwithau;