Matthew 6:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr a ny uaddeuoch i ddynion ei sarhaedae, ac ny vadae eich Tad i chvvi the eich sarhaedae. Yr Euangel y dydd cyntaf or Grawys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr os na faddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad ni faddeua chwaith eich camweddau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr oni faddeuwch i ddynion, eich Tad chwaith ni faddau eich camweddau chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddau eich Tad eich camweddau chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad ychwaith eich camweddau chwithau.