Matthew 6:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Hefyt pan vmprytioch, na vyddwch vvynep soric val hypocritait: can ys anffurfyaw ei h’wynepae y byddant, er ymdangos i ddynion, y bot wy yn vnprydiaw. Yn wir y dywedaf wrthych vot ydyn ei gobr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, yn wyneb-drist; canys difetha eu gwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion, yn ymprydio: yn wir meddaf i chwi, Derbyn eu gwobr y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr yn aflawen eich gwedd; canys difwyno’u hwynebau y maent, er mwyn ymddangos i ddynion fel ymprydwyr; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A phan fyddwch yn ymprydio, peidiwch bod yn wynepdrist fel y rhagrithwyr; y maent hwy'n anffurfio eu hwynebau er mwyn i eraill gael gweld eu bod yn ymprydio. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wynebdrist, canys anffurfiant eu gwynebau, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.