Matthew 6:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd paam pan roddych di dy aluseni, na phar gany vtcorn geyr dy vron, mal y gwna ’r hypocritae yn ei Synagogae ac ar yr heolydd, y’w moli gan ddynion. Yn wir y dywedaf y chwi, y mae ei g vv obr ganthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, pan wnelych elusen, nac udgana o’th flaen fel y mae’r rhagrithwŷr yn gwneud yn y sunagogau ac yn yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, megis y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau ac ar yr heolydd, fel y clodforer hwynt gan ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny pan wnelych elusen, na utgana o'th flaen, fel y gwna'r rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, pan fyddi'n rhoi arian i'r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna mae'r rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Felly, pan fyddi'n rhoi elusen, paid chanu utgorn o'th flaen, fel y mae'r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn yr heolydd, er mwyn cael eu canmol gan eraill. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac yn yr heolydd, fel y canmoler hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.