Matthew 6:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr cesclwch yw’ ch tresore yn y nef, lle ny’s llygra’r pryf na rhwt, a’ lle ny’s cloddia r llatron trywodd ac ny’s llatratant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond trysorwch iwch drysorau yn y nef, lle nid yw na gwyfyn na rhwd yn difetha, a lle nid yw lladron yn cloddio trwodd nac yn lladratta:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nid oes ladron yn cloddio trwodd nac yn lladrata:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd — all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y Nef, lle nad oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nis cloddia lladron trwodd, ac nis lladratant.