Matthew 6:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ny ddychon nep wasanaethy dau Arglwyð: can ys ai ef a gasaa’r naill, ac a gar y llall, ai ef a ymlyn wrth y n’aill, ac a escaelusa yr llall. Ny ellwch wasanethu Duw a’ golud‐ bydol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oes neb a ddichon wasanaethu dau arglwydd; canys un ai y naill a gasa ac y llall a gar efe, neu wrth y naill yr ymlŷn, a’r llall a ddirmyga efe: ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esgeulusa'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasha y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a ddiystyra y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.