Matthew 6:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hynny y dywedaf yw’ch, na ovelwch am eich bywyt pa beth a vwytaoch, ai pa beth a yvoch: na’c am eich cyrph, pa beth a wiscoch: any d yw’r bywyt yn vwy na’r bwyt? a’r corph yn vvvy na’r dillat?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch neu pa beth a yfoch; nac am eich corph, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corph na’r dillad?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch neu beth a yfwch; nac am eich corff, beth a wisgwch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r dillad?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw'r bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff yn fwy na'r dillad?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, dyma dw i'n ddweud — peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am hynny 'rwy'n dweud wrthych, peidiwch phryderu am eich bywyd, beth i'w fwyta na'i yfed, nac am eich corff, beth i'w wisgo; onid oes mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, na fyddwch bryderus am eich bywyd, pa beth a fwytaoch neu pa beth a yfoch; neu am eich corff, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r dillad.