Matthew 6:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Edrychwch ar chediait y nef can na heyant, ac ny’s metant, ac ny chywenant i’r yscuporiae: ac y mae eich Tat nefawl yn y porthy wy. Any d y‐chwi well o lawer nac yntwy?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau, ac eich Tad nefol a’u portha: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Edrychwch ar adar y nef; nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn cywain i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy; onid ydych chwi’n amgenach o lawer na hwy?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliwch am adar er enghraifft: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau — ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychwch ar adar yr awyr: nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Edrychwch ar ehediaid y nefoedd, nad ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad Nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?