Matthew 6:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr pan wneych ti dy aluseni, na wypo dy law aswy pa beth a wna dy law ddeheu,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pan yr wyt ti yn gwneuthur elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy ddeheulaw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond tydi pan wnelych elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fyddi di'n rhoi arian i'r tlodion, paid gadael i'r llaw chwith wybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan fyddi di'n rhoi elusen, paid gadael i'th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy y peth a wna dy law ddehau: