Matthew 6:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hynny a’s dillada Duw lysaeū y maes, yr hwnn ys ydd heðyw, ac yvory a vwrir i’r ffwrn, a ny’ s gvvna vwy o lawer erochwi, yr ei a’r ychydic ffydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os llysieuyn y maes y sydd heddyw mewn bod ac y foru i’r ffwrn y’i bwrir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, onid llawer mwy y dillada Efe chwi, o rai o ychydig ffydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dillada Duw felly wellt y maes, y sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, onid llawer mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddiw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, sydd yno heddiw ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn. Ac os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd?