Matthew 6:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(Can ys am y pethae hynn oll yr ymovyn y Cenetloedd) o bleit e wyr eich Tat nefol, vot arnoch eisiae yr oll pethae hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio, canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau y pethau hyn i gyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys yr holl bethau hyn y mae’r cenhedloedd yn eu ceisio; canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r pethau hyn oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys yr holl bethau hyn y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau'r holl bethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y paganiaid sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna'r holl bethau y mae'r Cenhedloedd yn eu ceisio; y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr holl bethau hyn y mae y cenedloedd yn eu ceisio; oblegyd gwyr eich Tad Nefol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn.