Matthew 6:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na ovelwch dros dranoeth: can ys tranoeth a ovala drosto e h unan. Digon i ddiernot y ddrwc e h un.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny na phryderwch am y foru, canys y foru a brydera am dani ei hun; digon i’r diwrnod ei ddrygioni ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na phryderwch, ynteu, am yfory, canys yfory a ddwg ei bryder ei hun. Digon i’r diwrnod ei helbul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch felly phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, na fyddwch bryderus gyda golwg ar dranoeth: canys tranoeth a fydd bryderus am dano ei hun. Digon i bob diwrnod ei ddrwg ei hun.