Matthew 6:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn y bo dy aluseni yn y dirgel, ath Tat yr hwn a wyl yn y dirgel, ath obrwya yn yr amlwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bo dy elusen yn y dirgel, a’th Dad y sy’n gweled yn y dirgel, a dâl i ti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y bo dy elusen di yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly bydd dy elusen di yn y dirgel, a bydd dy Dad, sydd yn gweld yn y dirgel, yn dy wobrwyo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dâd, yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti.