Matthew 6:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weddiych di, na vydd val yr hypocritae, can ys hwy a garant sefyll, a’ gweðiaw yn y Synagogae, ac yn‐conglae yr heolydd, er mwyn cael eu gweled gan ddynion. Yn wir y dyweddaf ychwi, y mae ganthwynt ei gobr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwŷr, canys carant weddïo yn sefyll yn y sunagogau ac ynghonglau y llydanfeydd, fel yr ymddangosont i ddynion: yn wir meddaf i chwi, derbyn eu gwobr y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwyr; canys carant sefyll i weddïo yn y synagogau ac yng nghonglau’r heolydd, i’w dangos eu hunain i ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau, ac yng nghonglau'r heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A phan fyddwch yn gweddo, peidiwch bod fel y rhagrithwyr; oherwydd y maent hwy'n hoffi gweddo ar eu sefyll yn y synagogau ac ar gonglau'r heolydd, er mwyn cael eu gweld gan eraill. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan weddioch, ni fyddwch fel y rhagrithwyr, canys hwy a hoffant sefyll i weddio yn y synagogau ac yn nghonglau y prif heolydd fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn yn llawn eu gwobr.