Matthew 6:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyt pan weddioch, na vyddwch siaradus mal y cenetloedd: can ys tybiant y clywir wy dros ei haml ’airiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel yr ethnigion, canys tybiant mai o herwydd eu haml eiriau y gwrandewir hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth weddïo na fyddwch siaradus fel y cenedlddynion; canys tybio y maent mai am eu haml eiriau y gwrandewir hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth weddo, peidiwch phentyrru geiriau fel y mae'r Cenhedloedd yn gwneud; y maent hwy'n tybied y cnt eu gwrando am eu haml eiriau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan weddioch, nac ail adroddwch wag‐eiriau, fel y cenedloedd: canys y maent yn tybied y cânt eu gwrandaw yn eu haml eiriau.