Matthew 7:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwc, a wyddoch roi rroddion da i’ch plant, pa veint mwy y bydd ich Tad yr hwn ’sy yn y nefoedd, roddy daoedd ir ei a archant arno?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, chwychwi, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa sut i roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y gwna eich Tad y sydd yn y nefoedd, roddi pethau da i’r rhai sy’n gofyn Iddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofyn iddo?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai a ofynnant iddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os dych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i'r rhai sy'n gofyn iddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os chwychwi, gan hyny, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y Nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo?