Matthew 7:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny, peth pynac a ewyllysoch wneythy ’r o ddynion i chwi, velly gwnew‐chwithe yddwynt wy. Can ys hynn yw’r Ddeddyf a’r Prophwyti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, yr holl bethau, cymmaint ag a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw’r Gyfraith a’r Prophwydi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Popeth, ynteu, a fynnoch i ddynion eu gwneuthur i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw'r gyfraith a'r proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi. Mae'n egwyddor sy'n crynhoi popeth mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, pa bethau bynag oll a ewyllysioch i ddynion eu gwneuthur i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw y Gyfraith a'r Proffwydi.