Matthew 7:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ewch y mewn ir porth cyfing: cā ys eheng yw’r porth, ac llydan ywr ffordd ys y yn tywys i ddistriw iad: a’ llaweroedd ynt yn myned y mywn yno vv,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng; canys ehang yw’r porth, a llydan y ffordd sy’n arwain i’r distryw, a llawer yw y rhai yn myned i mewn trwyddi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ewch i mewn trwy’r porth cul; canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd i mewn ar hyd-ddi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng: canys eang yw'r porth, a llydan yw'r ffordd sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw'r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch i mewn drwy'r fynedfa gul. Oherwydd mae'r fynedfa i'r ffordd sy'n arwain i ddinistr yn llydan. Mae'n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ewch i fewn drwy y porth cyfyng, canys llydan yw y porth ac eang yw y ffordd sydd yn arwain ymaith i'r Golledigaeth, a llawer yw y rhai sydd yn myned i fewn drwyddi.