Matthew 7:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Y mogelwch rac y gau‐prophwyti, yr ei a ðawant atoch yngwisc oedd deveit, anid o ðymewn ydd ynt blaiddiae raipus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyliwch rhag y gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwisgoedd defaid, ond oddimewn y maent yn fleiddiaid rheibus: wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gochelwch y gau broffwydi, sy’n dyfod atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn sy’n lleiddiaid rheibus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi'r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gochelwch rhag gau-broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai sydd yn dyfod atoch yn ngwisgoedd defaid, ond oddifewn y maent yn fleiddiaid rheibus.