Matthew 7:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth ei ffrwyth ydd adnabyddwch wy. A’ gascla’r ei ’rawnwin o y ar ddrain? nei fficus o ydd ar yscall?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai oddi ar ddrain y casglant rawnwin; neu oddi ar ysgall, ffigys?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yn sicr ni chasgl neb rawnwin oddi ar ddrain neu ffigys oddi ar ysgall?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y ffordd i'w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. Dydy grawnwin ddim yn tyfu ar ddrain, na ffigys ar ysgall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy. Ai oddi ar ddrain y mae casglu grawnwin neu oddi ar ysgall ffigys?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A ydynt yn casglu grawnsypiau oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall?