Matthew 7:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly pop pren da a ðwc ffrwyth da a’ phren drwc a ðwc ffrwyth drwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly pob pren da, ffrwythau da a ddwg efe; a’r pren llygredig, ffrwythau drwg a ddwg efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly pob pren da a rydd ffrwythau da, ond y pren sâl a rydd ffrwythau gwael.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly lle mae ffrwyth da mae coeden iach, ond os ydy'r ffrwyth yn ddrwg mae'r goeden yn wael.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly y mae pob coeden dda yn dwyn ffrwyth da, a choeden wael yn dwyn ffrwyth drwg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly, pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren gwael sydd yn dwyn ffrwythau drwg.