Matthew 7:2 — Compare Translations

6 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cāys a’ pha varn y barnoch, ich bernir: ac a pha vesur y mesuroch, y mesurir y chwithae eilchwyl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac â’r mesur â’r hwn y mesurwch, y mesurir i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys â pha farn y barnoch, y'ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oherwydd cewch chi'ch barnu yn yr un ffordd â dych chi'n barnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi'n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd fel y byddwch chwi'n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac 'r mesur a rowch y rhoir i chwithau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys â pha farn y barnoch y'ch bernir, ac â pha fesur y mesuroch y mesurir i chwithau.