Matthew 7:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd pwy bynac a ddyweit wrthyf, Arglwyð, Arglwydd, a a i deyrnas nefoedd amyn yr hwn a wna ewyllys vy‐Tat yr hwn yw yn y nefoedd efe a ddavv i deyrnas nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid pob un y sy’n dywedyd Wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid pob un sy’n dywedyd wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond y neb a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid pob un sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Nid pawb sy'n dweud wrthyf, 'Arglwydd, Arglwydd', fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid pob un a'r sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i fewn i Deyrnas Nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr Hwn sydd yn y Nefoedd.