Matthew 7:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Llawer oedd a ðiwedant wrthyf yn y dyð hwnw, Arglwydd, Arglwyð, a nyd drvvy dy Enw di y prophwydesam? a thrvvy dy enw y bwriesom allan gythraulieit? a thrvvy dy Enw y gwnaetham weithredoedd‐mawrion?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer a ddywedant Wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, onid yn Dy enw Di y prophwydasom; ac yn Dy enw Di y bwriasom allan gythreuliaid; ac yn Dy enw Di gwyrthiau lawer a wnaethom?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llawer a ddywed wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw, a bwrw allan gythreuliaid yn dy enw, a gwneuthur grymusterau lawer yn dy enw?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw yn dod i farnu, bydd llawer o bobl yn dweud wrtho i ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuon ni'n proffwydo ar dy ran di, ac yn bwrw allan gythreuliaid a gwneud llawer iawn o wyrthiau eraill?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, 'Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom trwy dy enw di? A thrwy dy enw di y bwriasom allan gythreuliaid? Ac yn dy enw di y gwnaethom lawer o weithredoedd nerthol?