Matthew 7:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno yr addefaf yddyn, Ny’s adnabym chwi er ioed: ewch ymaith y wrthyf yr ei a weithiwch enwiredd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yna yr addefaf wrthynt, Erioed ni’s adnabum chwi: ewch ymaith Oddiwrthyf y rhai yn gweithredu anghyfraith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna y cyfaddefaf wrthynt, ‘Ni’ch adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, weithredwyr anghyfraith.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yna yr addefaf wrthynt, Nid adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydda i'n dweud wrthyn nhw'n blaen, ‘Dw i erioed wedi'ch nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, 'Nid adnabm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabuom chwi erioed: ewch ymaith oddiwrthyf, y rhai a weithredwch annghyfiawnder.