Matthew 7:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r glaw a syrthiodd, a’r llifeirieint a ddaeth ant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ðygwyðesont ar y tuy hwnw, ac ny chwympodd: can ys ei sylfaeny ar graic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a rhuthrasant ar y tŷ hwnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ar y graig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd, a syrthiasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ef ar y graig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r glaw a ddisgynnodd, a'r llifeiriaint a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd: oblegid sylfaenesid ef ar y graig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tu375? hwnnw, ond ni syrthiodd, am ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac ni syrthiodd, oblegyd yr oedd wedi ei sylfaenu ar y graig.