Matthew 7:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d pwy pynac a glywo genyf vy‐geiriae hyn, ac nys gwna, a gyffelypir i wr ynfyd, yr hwn a adeiliedodd ei duy ar dyvot:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phob un y sy’n clywed y geiriau hyn mau Fi, ac nad yw yn eu gwneuthur, cyffelyb fydd i ŵr ynfyd, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phawb a glyw fy ngeiriau hyn, ac nis gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob un a'r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae pawb sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ei ddweud yn debyg i ddyn dwl sy'n adeiladu ei dŷ ar dywod!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phob un sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof a heb eu gwneud, fe'i cyffelybir i un ffl, a adeiladodd ei du375? ar y tywod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod;