Matthew 7:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’r glaw a gwympoð, a’r llifdyfreð a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythesan, ac a guresont ar y tuy hwnw, ac e gwympodd, a’ ei gwymp a vu vawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a disgynodd y gwlaw, a daeth yr afonydd, a chwythodd y gwyntoedd, a churasant ar y tŷ hwnw, a chwympodd efe, ac yr oedd ei gwymp yn fawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a churasant ar y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r glaw a ddisgynnodd, a'r llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu'n llwyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tu375? hwnnw, ac fe syrthiodd, a dirfawr oedd ei gwymp."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.