Matthew 7:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A hypocrit, bwrw allan yn gyntaf y trawst oth lygat tyun, ac yno y canvyddy vwrw allan y gwelltyn o lygat dy vrawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ragrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn o lygad dy frawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli'n eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn o lygad dy gyfaill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O ragrithiwr! bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd.