Matthew 7:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Na rowch y peth ’sy sāctaið i gwn, ac na thavlwch eich gemmae geyrvron moch, rac yddyn ei sathry y dan draed, a’ throi drachefn ach rhwygo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na roddwch y peth sanctaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y moch, rhag ysgatfydd iddynt eu sathru hwynt â’u traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na rowch y peth sy santaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na roddwch y peth sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich gemau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a'ch rhwygo chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Peidiwch rhoi beth sy'n sanctaidd i gŵn, rhag iddyn nhw ymosod arnoch chi a'ch rhwygo chi'n ddarnau. Peidiwch taflu perlau gwerthfawr i foch, fydd yn gwneud dim ond eu sathru nhw dan draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch rhoi'r hyn sy'n sanctaidd i'r cu373?n, na thaflu eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi arnoch a'ch rhwygo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na roddwch yr hyn sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt un amser eu sathru â'u traed, a throi a'ch rhwygo chwi.