Matthew 8:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glywodd yr Iesu hyn, e ryfeddawd, ac a ðyvot, wrth yr ei oedd yn ei ganlyn, Yn wir, y dywedaf wrthych, Ny chefais gymeint ffydd, na’c yn yr Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ryfeddodd ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr ni chefais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd yr Iesu fe ryfeddodd, a dywedodd wrth ei ganlynwyr, “Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd gan neb yn Israel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu, pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yn canlyn, Yn wir, meddaf i chwi, gydag un dyn yn Israel ni chefais gymmaint ffydd.