Matthew 8:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi a ddywedaf wrthych, y daw llawer o’r Dwyrein a’r Gorllewyn, ac a eisteddāt gyd ac Abraham, ac Isaac, ac Iaco b yn‐teyrnas nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedaf wrthych, Llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddeuant ac a led-orweddant gydag Abraham ac Itsaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddaf i chwi, llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddaw ac eistedd wrth y bwrdd gydag Abraham ac Isaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwy'n dweud wrthych y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin a chymryd eu lle yn y wledd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi y daw llawer o'r Dwyrain a'r Gorllewin, ac a eisteddant i lawr gydag Abraham, ac Isaac, a Jacob yn Nheyrnas Nefoedd: