Matthew 8:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phlant y deyrnas a davlir ir tywyllwch eithaf: ynow y bydd wylofain a’ riccian dannedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond plant y deyrnas a deflir ymaith i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond meibion y deyrnas a fwrir i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i'r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond meibion y deyrnas a deflir allan i'r tywyllwch y tu allan; yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.