Matthew 8:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu wrth y Can t wriad, Dos ymaith, a’ megis y credeist, bit y‐ty. A’ ei was a iachawyt yn yr awr honno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith: fel y credaist, bydded i ti. Ac iachawyd ei was yn yr awr honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, “Dos; megis y credaist bydded i ti.” Ac iachawyd ei was yr awr honno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A'i was a iachawyd yn yr awr honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei yr hyn wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna'n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Iesu wrth y canwriad, "Dos ymaith; boed iti fel y credaist." Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd yr Iesu wrth y Canwriad, Dos ymaith, megys y credaist, bydded i ti. A'r gwas a iachawyd yn yr awr hono.