Matthew 8:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A’ phan ddaethei ’r Iesu i tuy Petr, ef a welawdd y chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf or cryd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o’r Iesu i dŷ Petr, gwelodd ei chwegr ef yn gorwedd ac yn glaf o’r cryd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth yr Iesu i dŷ Pedr, a gwelodd ei chwegr ef yn orweiddiog, ac mewn twymyn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r cryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth i du375? Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr yn gorwedd, ac mewn twymyn.