Matthew 8:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy y hwyrhay hi, wy ddugesont attavv lawer o’r ei cythraelic: ac ef a vwriawdd allan yr ysprytion a ei ’air, ac a iachaodd yr oll gleifion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ei hwyrhau hi, dygasant Atto rai cythreulig lawer; a bwriodd Efe allan yr ysprydion â gair; a’r holl rai drwg eu hwyl a iachaodd Efe,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddi hwyrhau, dygasant ato gythreuligion lawer; a bwriodd allan yr ysbrydion â gair, a’r holl gleifion a iachaodd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd hi'n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyda'r nos daethant llawer oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato, ac fe fwriodd allan yr ysbrydion 'i air, ac iachu pawb oedd yn glaf;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth yr hwyr, hwy a ddygasant ato lawer o rai a feddiannid gan gythreuliaid, ac efe a fwriodd allan yr ysprydion â gair, ac a iachaodd yr holl gleifion,