Matthew 8:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn y chyflawnit yr hyn a ðywedit trwy Iesaias y Prophwyt, can ddywedyt, Ef e a gymerth ein gwendit ni, ac a dduc ein hein t iae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd, “Efe Ei Hun ein gwendidau a gymmerth, Ac ein clefydau a ddug Efe.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd, Ef a gymerth ein gwendidau ni, ac a ddug ymaith ein clefydau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Cymerodd ein gwendidau arno'i hun, a chario ein hafiechydon i ffwrdd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: "Ef a gymerodd ein gwendidau ac a ddug ymaith ein clefydau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaiah y Proffwyd, gan ddywedyd. “Efe a gymmerodd ein gwendidau, ac a ddug ymaith ein clefydau.”