Matthew 8:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ A phan welawdd yr Iesu dorfeydd lawer oei amgylch, ef a ’orchymynawdd yddwynt vyned drosodd ir lan arall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan welodd yr Iesu dorfeydd mawrion o’i amgylch, gorchymynodd fyned ymaith i’r lan arall.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan welodd yr Iesu dyrfa o’i amgylch fe orchmynnodd fynd i’r ochr draw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i'r lan arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu'r tyrfaoedd o bobl oedd o'i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw'r llyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynodd ymadael i'r lan arall.