Matthew 8:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ryw ’wr‐lleen, ac a ddyvot wrthaw, Athro, mi ath canlynaf i b’lebynac ydd ai.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhyw ysgrifenydd wedi dyfod Atto, a ddywedodd Wrtho, Athraw, canlynaf Di i ba le bynnag yr elych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth rhyw ysgrifennydd, a dywedyd wrtho, “Athro, mi a’th ddilynaf pa le bynnag yr elych.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i'n fodlon dy ddilyn di ble bynnag byddi di'n mynd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, "Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw Ysgrifenydd a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynag yr elych.