Matthew 8:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, vn clafgohanawl a ddeuth ac ei addolawdd, cann ddywedyt, Arglwydd a’s mynny, ti elly vy‐glanhay.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, un gwahanglwyfus wedi dyfod Atto a’i haddolodd, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, gelli fy nghlanhau i.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma wahanglwyfus yn dyfod ato, ac yn ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o'i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o'i flaen a dweud, "Syr, os mynni, gelli fy nglanhau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth ato, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os myni, ti a elli fy nglanhau i.