Matthew 8:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r Iesu a ddyvot wrthaw, Y mae ffauae gan y llwynogot a ’chan adar y nefoedd ei nythot, an’d gan Fap y dyn nyd oes le i orphwys i ben.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gan y llwynogod y mae ffauau, a chan ehediaid y nefoedd lettyau; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd yr Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roi ei ben i lawr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrtho, "Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywed wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd, a chan ehediaid y nefoedd drigfanau; ond gan Fab y Dyn nid oes le i roddi ei ben i orphwys.