Matthew 8:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, e gyfodes cynnwrf mawr yn y mor, yd pan guddit y llong gan y tonae: ac ef e oedd yn cyscu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wele, cynnwrf mawr a ddigwyddodd yn y môr, nes yr oedd y cwch yn cael ei orchuddio gan y tonnau; ac Efe a gysgai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyna gynnwrf mawr yn codi yn y môr, nes cuddio’r llong gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu'n drwm drwy'r cwbl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma storm fawr yn codi ar y mr, nes bod y cwch yn cael ei guddio gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele bu cynhwrf mawr yn y môr hyd oni chuddiwyd y cwch gan y tonau; eithr efe oedd yn cysgu.