Matthew 8:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ei ddiscipulon ataw, ac ei defroesant, can ddywedyt, Arglwydd, cadw ni: e ddarfu am danam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod Atto, deffroasant Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, achub; darfu am danom:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant ato, a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Achub, Arglwydd, mae ar ben arnom.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r disgyblion yn mynd ato mewn panig a'i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni'n mynd i foddi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant ato a'i ddeffro a dweud, "Arglwydd, achub ni, y mae ar ben arnom."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, achub, collir ni.