Matthew 8:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthynt, Paam ydd ofnwch, havvyr a’r ffydd vechan? Yno y codawdd ef, ac y goharddawdd ef y gwyntoedd a’r mor: ac yno ydd aeth hi yn araf hin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd Efe wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, o chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd Efe, ac y dwrdiodd y gwyntoedd a’r môr, ac y bu tawelwch mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywed wrthynt, “Paham yr ydych mor ofnus, rai bychain eu ffydd?” Yna fe gododd, a cheryddodd y gwyntoedd a’r môr, a bu dawelwch mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae'ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrthynt, "Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?" Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r mr, a bu tawelwch mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Paham yr ydych yn llwfr, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cyfododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr.