Matthew 8:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dynion a ryvedodd, gan ddywedyt Pa ryw vvr yw hwn, pan vo’r gwyntoedd ar mor yn uvyddhay yddaw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fath ddyn yw hwn, gan fod y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhyfeddodd y dynion, gan ddywedyd, “Pa fath un yw hwn, gan fod hyd yn oed y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth ydyn ni i'w wneud o'r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Synnodd y bobl a dweud, "Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r mr yn ufuddhau iddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dynion hefyd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo?