Matthew 8:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ei ddawot ef ir lan arall, i wlat y Gergesieit, e gyfarfu ac ef ddau a diavleit ynthwynt, yr ei a ddaethen o’r monwenti yn dra ffyrnicion, mal na allai vn‐dyn vyned y ffordd honno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi Ei ddyfod i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, cyfarfu ag Ef ddau ddieflig, yn dyfod allan o’r beddau, ffyrnig dros ben fel na allai neb fyned heibio y ffordd honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ei ddyfod i’r ochr draw i wlad y Gadareniaid, cyfarfu ag ef ddau gythreulig yn dyfod allan o blith y beddau, rhai ffyrnig iawn, fel na allai neb fyned heibio hyd y ffordd honno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddo groesi'r llyn i ardal y Gadareniaid, dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio'r ffordd honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid, daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gadareniaid, dau a feddiannid gan gythreuliaid a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent allan o blith y beddau yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd hono.