Matthew 8:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, llefain awnaethant, gan ddywedyt, Iesu vap Duw, beth y sy i ni a wnelom a thi? A ddaethast ti yma in poeni cyn yr amser?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, gwaeddasant, gan ddywedyd, Pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, o Fab Duw? Daethost yma cyn yr amser i’n poeni ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyna hwy’n gweiddi, ac yn dywedyd “Beth sy rhyngom ni a thi, Fab Duw? A ddaethost ti yma cyn yr amser i’n dirboeni ni?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n gweiddi'n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i'n poenydio ni cyn i'r amser pan fydd hynny'n digwydd ddod?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma hwy'n gweiddi, "Beth sydd a fynni di ni, Fab Duw? A ddaethost yma cyn yr amser i'n poenydio ni?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Beth sydd i ni a wnelom â thi, Fab Duw? A ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?